Stigma Dan y Lens: Luis Fernando - Bolifia
  • 12 years ago
Eleni ar Ddydd AIDS y Byd mae Cymorth Cristnogol ac asiantaeth Magnum photos yn cyflwyno straeon grymus o bobl dros y byd sy'n byw gyda HIV dan gysgod stigma. Mae Luis Fernando o Bolifia, lle mae rhagfarna stigma yn uchel. Pan ddarganfyddodd Luis ei fod yn HIV positif, dechreuodd ddioddef o iselder mawr. Ond nawr gyda chymorth partner Cymorth Cristnogol IDH, mae'n llawer iawn mwy positif am fywyd. Mae ganddo deulu cariadus, mae'n astudio i fod yn gyfreithiwr er mwyn ammddiffyn hawliau pobl sy'n byw gyda HIV ac mae'n rhedeg grwp cefnogi ar gyfer teuluoedd sydd wedi eu heffeithio gan HIV. Yn fwy na dim, mae Luis eisiau bod yn agored am ei statws, a byw bywyd arferol. Ym Molifia, mae cyfle i sicrhau na fydd pandemig HIV/AIDS yn cyrraedd y lefelau hynny a welir yn Affrca. Fodd bynnag, mae stigma ac anwybodaeth yn ychwanegu at ledaenu'r feirws. Pobl fel Luis sy'n helpu herio'r stigma a'r rhagfran. Ymwelwch a'r straeon eraill sy'n yr oriel, a byddwch yn ran o'r ymdrech i leihau stigma dros y byd: http://www.christianaid.org.uk/hiv 
Recommended